Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoleiddio (Dirprwy Gofrestrydd)
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Amdanom Ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Er mwyn gwneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Y Rôl
Rydym yn edrych i benodi aelod newydd i'n Tîm Arweinyddiaeth, i oruchwylio'r gwaith gweithredol o gyflawni ein rôl statudol fel rheoleiddiwr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rôl y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheolieddio (Dirprwy Gofrestrydd) fydd i arwain ein gwaith o gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio, gan gynnwys rheoleiddio’r gweithlu a’n gwaith Sicrhau Ansawdd Addysg Gwaith Cymdeithasol. Byddant yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau ansawdd addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau bod gweithgarwch rheoleiddio yn diogelu’r cyhoedd, yn hyrwyddo safonau ymarfer uchel ac yn cefnogi gweithlu medrus, proffesiynol a hyderus.
Byddant hefyd yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu systemau rheoleiddio gweithlu cymesur sy’n seiliedig ar wybodaeth ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n hyrwyddo hyder y cyhoedd ac yn cefnogi gwelliant ar draws y sector gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, fel aelod o Dîm Arwain Gofal Cymdeithasol Cymru, byddant yn cyfrannu at arweinyddiaeth gorfforaethol a rhagoriaeth sefydliadol ar draws Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, ac rydym yn hapus i ystyried trefniadau rhannu swyddi.
Prif ddyletswyddau:
• Arwain perfformiad yr adran reoleiddio
• Gyrru gwelliant yn y ffordd rydym yn cyflawni
• Meithrin hyder ac ymddiriedaeth yn y system reoleiddio
• Sicrhau bod y prosesau rheoleiddio yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ac yn sicrhau gwerth arian.
• Hyrwyddo’r defnydd o ddata’r gweithlu, gwybodaeth reoleiddiol a thystiolaeth i nodi risgiau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg.
• Sicrhau bod y broses o Sicrhau Ansawdd Addysg Gwaith Cymdeithasol yn cefnogi hyfforddiant a dysgu o ansawdd uchel.
• Sicrhau bod prosesau rheoleiddio yn rhoi’r sicrwydd mwyaf i’r cyhoedd ac yn canolbwyntio ar ddiogelu’r cyhoedd a gwella’r gweithlu.
• Sicrhau bod risg yn cael ei nodi a bod cynlluniau rheoli risg ar waith.
• Glynu wrth drefniadau llywodraethu Gofal Cymdeithasol Cymru ac ymrwymo i ddarparu gweledigaeth ac uchelgais yr 'un sector cyhoeddus'.
• Gweithredu fel prif ffynhonnell cyngor proffesiynol a rheoleiddiol i’r Tîm Gweithredol a’r Bwrdd.
• Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio’r gweithlu
• Cyfrannu at ddatblygiad cynllun strategol Gofal Cymdeithasol Cymru
• Cyfleu gweledigaeth ac uchelgais Gofal Cymdeithasol Cymru gydag egni ac ymrwymiad, gan gysylltu'r uchelgais ag amcanion cyflawni'r sefydliadau.
• Gosod a monitro safonau a fydd yn sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu, yn fewnol ac yn allanol, wedi'i gydbwyso â chyfrifoldebau rheoleiddio.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 16 Awst 2026 a chynhelir y cyfweliadau a'r broses asesu, wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ar 04 Medi 2026.
Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen.
Y Manteision
• Cyflog o £68,156 - £76,547 (pro rata os yn rhan amser)
• 28 diwrnod o wyliau ynghyd â’r gwyliau banc, yn ychwanegol i 3 diwrnod braint i’w gymryd ar amser penodedig (pro rata os yn rhan amser)
• 28 diwrnod yn codi i 29 diwrnod ar ôl 3 blynedd o wasanaeth, a 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
• Mae cynllun prynu gwyliau blynyddol ychwanegol gennym ni hefyd
• Cynllun pensiwn llywodraeth leol
• Polisi gwaith hyblyg
• Gweithio hybrid o adref ac o'n swyddfa yn ôl yr angen
• Rhaglen Cymorth i Weithwyr
• Cynllun Buddion i Weithwyr, gan gynnwys cynlluniau beicio i'r gwaith a chynlluniau buddion ceir yn ogystal âg arbedion gyda channoedd o siopau
• Polisi absenoldeb teuluol
Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft sy'n niwro-amrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm AD i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.