Working with Us

Current Vacancies

Cefnogi a Gwella Gwasanaethau

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau

Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)

Job Ref
SCW102-W
Location
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Salary
£66,011- £74,138

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau
Caerdydd a Chyffordd Llandudno, Cymru (gyda gweithio hybrid)

Amdanom ni

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.

Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau i ymuno â ni’n barhaol. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.

Y manteision

- Cyflog o £66,011 - £74,138 y flwyddyn pro rata
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid o gartref a'n swyddfa yn ôl yr angen
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau, byddwch yn dylanwadu ar sut mae tystiolaeth, dysgu a syniadau newydd yn cael eu defnyddio i wella gofal a chymorth ledled Cymru.

Yn benodol, byddwch yn arwain swyddogaeth effaith uchel, ymchwil, symudedd gwybodaeth ac arloesi sy'n ymgorffori tystiolaeth o fewn ymarfer ac sy’n gyrru gwelliant ar draws y sector, gan chwarae rhan allweddol wrth gyflawni ein strategaeth pum mlynedd.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn llunio dyfodol ein gwasanaeth Mewnwelediad Cydweithredol, gan ddarparu cyfeiriad strategol i sicrhau ei fod yn parhau i rymuso a chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Arwain a thyfu tîm medrus, brwdfrydig a gwydn
- Cefnogi datblygiad a chyflawniad blaenoriaethau sefydliadol
- Darparu cyngor arbenigol ar gyfleoedd arloesi a gwella
- Cynhyrchu mewnwelediadau i lywio gwaith polisi a phartneriaeth
- Adeiladu partneriaethau allanol effeithiol a pherthnasoedd â rhanddeiliaid

Amdanoch Chi

Er mwyn i ni eich ystyried yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau, bydd angen y canlynol arnoch:

- Cymhwyster(au) proffesiynol neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol
- Gwybodaeth fanwl am ymchwil, symudedd gwybodaeth ac arloesi ym maes gofal cymdeithasol neu sectorau cysylltiedig
- Profiad o gefnogi eraill i ddefnyddio ymchwil a mathau eraill o dystiolaeth ar gyfer gwelliant
- Gallu profedig i adeiladu partneriaethau cryf ac effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu cryf ar draws amrywiaeth o sianeli
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu â staff ar ad-drefniant sefydliadol, felly gallai fod rhai newidiadau i feysydd cyfrifoldeb y swydd hon, a byddwn yn cadarnhau unrhyw newidiadau cyn y cyfweliad.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Gorffennaf 2025.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Bennaeth Ymchwil ac Arloesi, Cyfarwyddwr Mewnwelediad a Thystiolaeth, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, Pennaeth Strategaeth a Gwella, neu Uwch Arweinydd Arloesi.

Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a bod yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen.

Felly, os ydych chi am ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Arloesi a Mewnwelediadau nesaf, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.

Function
Cefnogi a Gwella Gwasanaethau
Status
Hyblyg
Type
Parhaol
Hours
36 awr ond yn hyblyg

Share this vacancy

Gwasanaethau Corfforaethol

Swyddog Cynnwys

Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)

Job Ref
SCW097
Location
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Salary
£35,785 - £37,836

Swyddog Cynnwys
Caerdydd neu Gyffordd Llandudno (Hybrid)

Y Sefydliad

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.

Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Cynnwys sy’n siarad Cymraeg i ymuno â ni ar gyfer cytundeb cyfnod penodol o 12 mis i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.

Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.

Y Manteision

- Cyflog o £35,785 - £37,836 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda gwasanaeth)
- Gwyliau ychwanegol rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg a darpariaethau absenoldeb teulu

Y Rôl

Fel Swyddog Cynnwys, byddwch yn creu cynnwys clir, hygyrch a deniadol ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar-lein ac all-lein.

Gan sicrhau bod ein cynnwys yn glir, yn hawdd ei ddeall, ac yn unol â’n safonau corfforaethol, byddwch yn defnyddio’r sianeli gorau i gyrraedd ein cynulleidfaoedd, gan gynnwys ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn creu cynlluniau marchnata a chyfathrebu ar gyfer y cynnwys y byddwch yn ei ddatblygu ac yn dadansoddi data perfformiad ac adborth defnyddwyr i wella cyrhaeddiad ac ymgysylltiad yn barhaus.

Byddwch yn gweithio i ddeall anghenion ein cynulleidfa ac yn cynhyrchu cynnwys sy'n ymgysylltu â nhw'n effeithiol, fel tudalennau gwe, newyddion, e-byst a phostiadau cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn arwain eich cydweithwyr ar baratoi cynnwys sy’n bodloni anghenion defnyddwyr ac sy’n cyd-fynd â’n canllawiau brandio a hygyrchedd.

Amdanoch chi

Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Swyddog Cynnwys, bydd angen y canlynol arnoch:

- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad fel awdur a/neu olygydd
- Profiad o ymchwilio a dadansoddi'r hyn y mae cynulleidfaoedd yn chwilio amdano a chynhyrchu ymgyrchoedd sy'n diwallu eu hanghenion
- Profiad o strwythuro, dylunio a chyhoeddi cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar-lein ac all-lein
- Profiad o greu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu ar draws gwahanol sianeli
- Profiad o is-olygu a phrawfddarllen deunyddiau a throi testun cymhleth neu dechnegol yn Gymraeg neu Saesneg clir
- Dealltwriaeth o gynnwys HTML, systemau rheoli cynnwys gwefan ac SEO
- Gwybodaeth ymarferol o sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch, gan gynnwys cyfathrebu ysgrifenedig, fideo a graffeg
- Profiad o greu a gweithredu cynlluniau marchnata a chyfathrebu
- Y gallu i ddehongli data ansoddol a meintiol (gan gynnwys dadansoddeg gwe)

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 23 Mehefin 2025.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Grewr Cynnwys, Ysgrifennwr Copi, Swyddog Cyfathrebu, Swyddog Cynnwys Digidol, Swyddog Marchnata, Swyddog Gweithredol Marchnata, Gweithredwr Marcomms, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol, neu Swyddog Gweithredol Marchnata a Chyfathrebu.

Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Felly, os hoffech ymuno â ni fel Swyddog Cynnwys, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Function
Gwasanaethau Corfforaethol
Status
Hyblyg
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
36 awr ond yn hyblyg

Share this vacancy

Gwella a Datblygu

Cydlynydd Prosiect Cymraeg Hanfodol

Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)

Job Ref
SCW098-W
Location
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Salary
£29,651 - £32,061

Cydlynydd Prosiect Cymraeg Hanfodol
Caerdydd a Llandudno, Cymru

Amdanom ni

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.

Rydym nawr yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i ymuno â ni am gyfnod penodol tan 31 Awst 2026. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.

Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.

Y Manteision

- Cyflog o £29,651 - £32,061
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Cydlynydd Prosiect, byddwch yn cefnogi amrywiaeth o feysydd gwaith gwella a datblygu, prosiectau, rhwydweithiau a phartneriaethau.

Gan ddarparu gwasanaeth gweinyddol hollbwysig, byddwch yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynorthwyo gyda datblygu a chyflwyno prosiectau a chwarae rôl gefnogol hanfodol wrth gydlynu cyfarfodydd mewnol ac allanol.

Yn ogystal, byddwch yn casglu ac yn dadansoddi data ac yn adeiladu argymhellion ar gyfer amcanion a blaenoriaethau yn y dyfodol, yn ogystal â sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.

Amdanoch Chi

Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Gydlynydd Prosiect, bydd angen:

- Profiad mewn gweinyddu busnes
- Profiad o baratoi digwyddiadau e.e. gweithdai, cynadleddau neu gyrsiau ymarfer
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
- Profiad o weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Gwybodaeth am y sector cyhoeddus a dealltwriaeth o rôl Llywodraeth Cymru yng ngwaith Gofal Cymdeithasol Cymru
- Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys gwrando, ysgrifennu a siarad

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 30 Mehefin 2025.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Gweinyddol, Swyddog Prosiect, Cynorthwy-ydd Cefnogi Rhaglen, neu Weinyddwr Rhaglen.

Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Felly, os ydych am ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cydlynydd Prosiect, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Function
Gwella a Datblygu
Status
Hyblyg
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
36 awr ond yn hyblyg

Share this vacancy

Rheoleiddio

Cymorth Cofrestru Cymraeg Hanfodol Tymor Penodol

Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)

Job Ref
SWC100-W
Location
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Salary
£24,423 - £27,239

Cymorth Cofrestru Cymraeg Hanfodol Tymor Penodol
Caerdydd a Llandudno, Cymru (gyda gwaith hybrid)

Amdanom ni

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am staff Cymorth Cofrestru (Cymraeg yn Hanfodol) i ymuno â ni ar sail amser llawn am gontract tymor penodol tan 31 Mawrth 2026. Cynigir y rôl fel 36 awr yr wythnos gyda pheth hyblygrwydd.

Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.

Y manteision

- Cyflog o £24,423 - £27,239 y flwyddyn pro rata
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid o gartref a'n swyddfa yn ôl yr angen
- Polisi absenoldeb teuluol

Pwy ydym ni?

Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol y mae eu gwaith yn helpu i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm prysur o staff Cymorth Cofrestru i gadw'r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn gyfredol.

Beth mae'r tîm Cofrestru yn ei wneud?

Mae tîm Cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am dasgau gan gynnwys:

- prosesu ceisiadau i gofrestru ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
- helpu pobl i gadw eu gwybodaeth gofrestru fel eu data cyflogaeth a phersonol yn gyfredol
- helpu pobl i aros yn gofrestredig trwy brosesu eu ceisiadau adnewyddu
- cynnal cywirdeb ac ansawdd y data a gedwir ar y Gofrestr
- ateb ymholiadau e-bost a ffôn
- helpu ein cwsmeriaid i ddefnyddio ein porthol a gwefan ar-lein

Allech chi fod yn rhan o'n tîm?

Rydym yn chwilio am bobl a all:

- darparu cefnogaeth dda i gwsmeriaid dros y ffôn a thrwy e-bost gan ddefnyddio Microsoft Office
- dilyn gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gwaith ysgrifenedig
- adolygu a phrosesu data yn gywir yn ein system yn unol â'n polisïau
- blaenoriaethu a rheoli eu llwyth achosion eu hunain o waith
- gweithio'n dda o fewn tîm cyfeillgar a chefnogol yn unol â'n gwerthoedd sefydliadol
- darparu gwybodaeth i gynorthwyo gyda chynhyrchu adroddiadau ar gyfer pwyllgorau mewnol

Byddwn yn cefnogi eich datblygiad parhaus ac mae gennym hanes balch o helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y tîm a'r sefydliad ehangach.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 22 Mehefin 2025.

Bydd rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon gan ein bod yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd allu cyflawni’r holl ddyletswyddau uchod yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr Cofrestru, Gweinyddwr Gwasanaeth Cwsmer, Cydlynydd Cofrestru, Cynorthwyydd Cofrestru, Cydlynydd Cofrestru a Gwasanaeth Cwsmeriaid, neu Gynorthwyydd Cofrestru a Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Felly, os ydych am ymuno â ni fel Staff Cymorth Cofrestru, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Function
Rheoleiddio
Status
Hyblyg
Type
Contract Cyfnod Penodol
Hours
36 awr ond yn hyblyg

Share this vacancy

Job Alerts

Can’t see the role you want? Register your details with us to be notified when we’re hiring!