Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu Cymraeg Hanfodol
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu
Caerdydd neu Gyffordd Llandudno (gyda gweithio hybrid)
Amdanom Ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â ni ar sail barhaol. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn ni’n ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.
Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.
Y Manteision
- Cyflog o £48,134 - £52,966 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, byddwch chi’n arwain swyddogaethau cyfathrebu craidd, gan oruchwylio prosiectau proffil uchel, ymgyrchoedd mewnol ac allanol, a datblygu cynnwys strategol.
Byddwch chi’n rheoli ystod eang o weithgareddau cyfathrebu corfforaethol, o arwain ein gwobrau blaenllaw, sef y Gwobrau a’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg, i oruchwylio'r brif wefan, cyfathrebu mewnol, cylchlythyrau, a chynnwys corfforaethol.
Gan weithio ar draws timau, byddwch chi’n hyrwyddo ymarfer gorau o ran tôn llais, brand a hygyrchedd, tra hefyd yn cyfrannu at gysylltiadau â'r cyfryngau, strategaeth cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu argyfwng a materion cyhoeddus.
Yn ogystal, byddwch chi’n:
- Arwain a datblygu tîm marchnata a chyfathrebu aml-sgiliau
- Rheoli cyllidebau, monitro perfformiad, a chydymffurfiaeth reoleiddiol
- Goruchwylio cynhyrchu fideo, dadansoddeg cynnwys, nwyddau, a gwelliannau i’r wefan
- Gweithredu fel prif olygydd ar gyfer cynnwys corfforaethol ac arwain ar weithredu cyfathrebu mewnol
Ar hyn o bryd rydyn ni’n ymgysylltu â staff ar ad-drefnu, felly gallai fod rhai newidiadau i feysydd cyfrifoldeb y swydd hon.
Amdanoch Chi
Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- Profiad o weithio mewn swyddogaeth farchnata a/neu gyfathrebu
- Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau marchnata a chyfathrebu wedi'u targedu
- Gwybodaeth am lwyfannau e-bost sy'n seiliedig ar brosiectau, Adobe InDesign, Adobe Acrobat a Microsoft SharePoint
- Gwybodaeth am gynhyrchu cynnwys fideo, digidol a phrint hygyrch
- Gwybodaeth am sut i ddehongli data ansoddol a meintiol
- Gwybodaeth ragorol o'r Saesneg a'r Gymraeg
Dyddiad Cau: 11eg Awst 2025
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata, Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu, Pennaeth Marchnata, Uwch Reolwr Marcomms, Uwch Reolwr Cyfathrebu, neu Bennaeth Cyfathrebu Digidol.
Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os hoffech ymuno â ni fel Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.